SL(6)087 – Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru)(Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021

Cefndir a diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”) i sicrhau cydymffurfiad â’r cytundeb ymadael â’r UE, cytundeb gwahanu EFTA yr AEE, y cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd (“y Cytundebau”) a’r trefniant o ran yr Ardal Deithio Gyffredin.

Mae’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd (‘yr Athrofa’), sydd wedi’i lleoli yn Fflorens yn yr Eidal, yn athrofa ryngwladol ar gyfer ymchwil ac addysgu ôl-ddoethurol ac ôl-raddedig a sefydlwyd gan aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r cymorth ar gyfer myfyrwyr cymwys sy’n mynd i’r Athrofa yn cael ei ddarparu gan Reoliadau 2014.  Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond dyfarnu cymorth i un myfyriwr cymwys ym mhob blwyddyn academaidd

Mae’r Rheoliadau yn dileu cymhwystra gwladolion yr UE ar gyfer cymorth ac yn rhoi hawliau i’r dinasyddion hynny o dan y Cytundebau.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau cyn pen 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fydd y Senedd: (i) wedi'i diddymu, neu (ii) ar doriad sy’n fwy na phedwar diwrnod) o'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 2 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae paragraff cyntaf y Nodyn Esboniadol yn nodi mai un o’r prif ddiwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yw newid y dyddiad olaf i wneud cais o dan Reoliadau 2014 i 28 Chwefror.  Nid yw'n ymddangos bod y Rheoliadau hyn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth i newid y dyddiad cau i wneud cais.  Mae anghysondeb, felly, rhwng yr hyn y mae'r Rheoliadau'n ei gynnwys a'r hyn y mae'r Nodyn Esboniadol yn ei nodi.

2. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae Rheoliad 11(12) o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod paragraff 9B newydd (Gwladolion o’r Deyrnas Unedig) yn Atodlen 1 i Reoliadau 2014.  Mae paragraff 9B(1)(b)(ii) yn cynnwys y testun:

“ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn y dyddiad perthnasol”

Nid yw'n eglur a yw'r testun hwn yn rhan o is-baragraff (ii) neu baragraff (b) ac fe fyddai yr un mor berthnasol i is-baragraffau (i) a (ii).  Ym mharagraff 9BA newydd, cymerir y dull olaf.

Rhinweddau: Craffu

Nodwyd y 2 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae paragraff 289D o'r rheolau mewnfudo yn darparu ar gyfer caniatâd cyfyngedig pellach i aros am gyfnod nad yw'n hwy na 30 mis mewn perthynas ag ymgeisydd nad yw'n bodloni’r gofynion ar gyfer caniatâd amhenodol i aros fel dioddefwr trais domestig.  Ni chyfeirir at y ddarpariaeth hon yn is-baragraff cyntaf y diffiniad o “berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” a fewnosodwyd yn Rheoliadau 2014 gan y Rheoliadau hyn.

Mae hyn yn wahanol i'r sefyllfa o dan is-baragraff (b) o'r diffiniad hwnnw, sy'n cynnwys cyfeiriad at baragraff D-DVILR.1.2 yn Atodiad FM o'r rheolau mewnfudo.  O dan baragraff D-DVILR.1.2, darperir ar gyfer caniatâd cyfyngedig pellach i aros am gyfnod nad yw'n hwy na 30 mis.  Mae'r dull hefyd yn wahanol i'r dull a gymerir o dan is-baragraff (c) o'r diffiniad o “berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” mewn perthynas â phartneriaid aelodau o’r Lluoedd Arfog sydd wedi dioddef trais domestig.  Yn yr achos hwnnw mae darpariaeth debyg yn rhoi caniatâd cyfyngedig (o dan baragraff 41 o’r atodiad yn rheolau mewnfudo ynghylch y Lluoedd Arfog).

Nid yw'n glir pam mae person a gafodd ganiatâd cyfyngedig o dan baragraff 289D o'r rheolau mewnfudo y tu allan i gwmpas y diffiniad o “berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” pan fydd person a gafodd ganiatâd cyfyngedig o dan baragraffau D-DVILR.1.2 o Atodiad FM neu baragraff 41 o’r atodiad ynghylch y Lluoedd Arfog, o fewn cwmpas y diffiniad hwnnw.

4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae rheoliadau 11(2)(c) a (d) o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod y testun “, y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ei ffurfio” i mewn i is-baragraffau (7) ac (8) o baragraff 1 o Atodlen 1 i Reoliadau 2014.  Mae is-baragraffau (7) ac (8) o baragraff 1 o Atodlen 1 i Reoliadau 2014 eisoes yn cynnwys y geiriad “yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar”.  Nid yw’n glir, felly, pam fod “y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig yn ei ffurfio” wedi ei ailadrodd yn y darpariaethau hynny.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Craffu technegol

  1. Cafodd y cyfeiriad yn y Nodyn Esboniadol at newid i’r dyddiad olaf i wneud cais ei gynnwys drwy gamgymeriad.
  2. Mae’r testun y cyfeirir ato yn yr adroddiad yn gymwys i is-baragraffau (i) a (ii) fel ei gilydd. Cafwyd gwall fformatio a oedd yn golygu bod y testun hwnnw yn dilyn yn syth ar ôl is-baragraff (ii). Nid yw’r Llywodraeth o’r farn bod y gwall fformatio yn atal y ddarpariaeth honno rhag cael ei dehongli’n gywir.

Craffu ar rinweddau

  1. Dylai is-baragraff cyntaf y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” fod wedi cynnwys cyfeiriad at baragraff 289D o’r rheolau mewnfudo. Bydd Llywodraeth Cymru yn anelu at drefnu diwygiad mewn offeryn priodol yn y dyfodol.
  2. Mae angen cynnwys y testun “y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ei ffurfio”. Mae hwnnw’n derm a ddefnyddir yn y Rheoliadau ac mae’n wahanol i’r term “y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar...”.

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn gydag ymateb y Llywodraeth yn ei gyfarfod ar 6 Rhagfyr 2021 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd uchod.